Senedd Cymru

Welsh Parliament

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Economy, Trade, and Rural Affairs Committee

Rheoliadau Llygredd Amaethyddol

Agricultural Pollution Regulations

Economy(6) APR01

Ymateb gan: Fish Legal

Evidence from: Fish Legal

Mae Fish Legal yn gymdeithas aelodaeth nid er elw. Rydym yn defnyddio’r gyfraith ar ran genweirwyr er mwyn ymladd llygredd a difrod a bygythiadau eraill i’r amgylchedd dŵr ledled Prydain.

Mae Fish Legal yn pryderu am lygredd gwasgaredig amaethyddol parhaus a methiant y cyrff dŵr i gyrraedd statws ecolegol a chemegol da (fel y’i diffinnir o dan y WFD) yng Nghymru.

Yn 2010, 2015 a 2021, lansiodd Fish Legal a’r Ymddiriedolaeth Enweirio achos llys ar y cyd â’r WWF yn erbyn Llywodraeth y DU am fethu â chyrraedd eu rhwymedigaethau WFD.

Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae 60% o gyrff dŵr yng Nghymru yn methu â chyrraedd eu targedau statudol oherwydd y lefelau uchel o ffosffad sy’n deillio o amaethyddiaeth yn bennaf.

Mae un o’r cyrff dŵr hynny, Afon Gwy, (ACA gyda nifer o SoDdGAau yn ei dalgylch), wedi ei ddifetha gan yslafan algaidd a achoswyd gan lygredd gan y diwydiant dofednod, yn uchel i fyny yn ei flaenddyfroedd lle nad oes unrhyw allbyniadau ffosffad eraill. Mae Llywodraeth Cymru a’i hasiantaethau’n parhau i wadu’r broblem yn ogystal ag osgoi’r casgliad rhesymegol mewn perthynas â’r achos – gyda’r canlyniad mai ychydig os unrhywbeth sydd wedi ei wneud i atal y dylifiad o ffosffadau i’r afon hon ac afonydd eraill yng Nghymru. 

Gan hynny, croesawodd Fish Legal cyflwyniad y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 sy’n hwyr yn dod ar sodlau rheolau ffermio Lloegr a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2018.

Tros y ffin yn Lloegr, er gwaethaf addewidion gan Defra a’r EA i fynd i’r afael â llygredd gwasgaredig amaethyddol a’u hymrwymiad yn 2015 i gyhoeddi cynlluniau llygredd dŵr gwasgaredig (DWPPau), ychydig sydd wedi ei wneud i wneud defnydd o’r mesurau gan gynnwys y “Rheolau” i leihau llygredd.

Mae Rheolau Cymru yn llenwi’r bwlch yng nghyfraith Cymru i ateb gofyniad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr o roi ar waith “mesurau sylfaenol” yn effeithiol i reoli neu atal llygredd gwasgaredig gan gynnwys, “rheoleiddio blaenorol, fel gwaharddiad ar fynediad llygryddion i mewn i ddŵr, awdurdodi neu gofrestru blaenorol yn seiliedig ar reolau rhwymol cyffredinol lle ni ddarperir gofyniad o’r fath fel arall o dan gyfraith y Gymuned” (Erthygl 11 (3)(h)).

Mae Rheolau Cymru yn llawer mwy manwl na’u cyfwerth yn Lloegr gyda chwe Atodlen, a chyflwyniad cam wrth gam cymhleth, gan gynnwys rheolaeth cynllunio rheoli maetholion; defnyddio gwrtaith cynaliadwy yn gysylltedig â gofynion cnydau; diogelu dŵr rhag llygredd yn gysylltiedig â phryd, lle a sut y taenir gwrteithiau a safonau storio tail a silwair. Maen nhw’n ei gwneud hi’n drosedd i unrhyw berson fynd yn groes i‘w darpariaethau, fel y gall fod yn agored i ddirwy.

Gan eu bod yn disodli’r Rheoliadau Nitrad, ar gyfer y ffermydd hynny nad oeddynt mewn “Parthau Bregus Nitrad” ym mis Ionawr 2021, ni fydd y darpariaethau sy’n ymwneud â gwrteithiau nitrad yn dod i rym am lawer o flynyddoedd eto, gan gynnwys y terfynau ar faint o wrteithiau nitrad a ellir eu defnyddio, storio tail ac eithrio biswail yn ogystal â chadw cofnodion perthnasol o’r defnydd o wrteithiau nitrad. Byddai gweithredu cyflymach yn cael ei groesawu.

Fodd bynnag, mae’r darpariaethau gan fwyaf yn ymwneud â thaenu gwrtaith nitrogen: er enghraifft, nid yw ei daenu os oes risg sylweddol o nitrogen fynd i’r dŵr wyneb, gan ystyried y tywydd a’r topograffi.

Mae’n siomedig nad yw’r rheoliadau yn cynnwys sathru gan dda byw a ffurfiau eraill o lygru amaethyddol, gan gynnwys gan ffosffadau; maen nhw hefyd yn ymddangos yn creu bwlch ar gyfer tir nad yw’n NVZ sy’n dechrau dangos effaith llygru nitrogen eithafol cyn 2023 a 2024 (y dyddiadau mae’r rheoliadau yn dod i rym ar gyfer y parthau hyn).

Yng ngoleuni pleidlais Senedd Cymru yn diddymu’r rheoliadau ym mis Mawrth 2021, a sialens gyfreithiol diweddar Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru, byddem yn pwysleisio nad ydym yn credu fod y rheoliadau hyn yn anghymesur neu nad oes unrhyw anghyfreithlondeb yn y broses y daethant i rym.

Nodwn fod yr NFU yn awgrymu byddai “mentrau gwirfoddol wedi eu harwain gan ffermwyr, … wedi eu hategu gan reoleiddio wedi eu targedu ac yn gymesur” yn ddigonol (https://nfu-cymru.org.uk/news/latest-news/nfu-cymru-finalising-preparations-to-launch-legal-challenge-over-damaging-nvz-regulations/) i ymdrin â llygredd gwasgaredig amaethyddol.

Fodd bynnag, mae’n amlwg o beth sydd wedi digwydd yn Lloegr – yn arbennig gyda’r safleoedd sensitif mewn ardaloedd amaethydol sy’n dioddef o lygredd gwasgaredig amaethyddol a lle mae’r safleoedd yn methu cyrraedd statws ffafriol – nad yw mesurau gwirfoddol yn unig yn gweithio.

Beth sydd ei angen yw cyllido Cyfoeth Naturiol Cymru’n ddigonol i ymweld â ffermydd, archwilio llygredd amaethyddol a chamau gorfodi o dan y rheoliadau. Mae methu â gorfodi neu reoleiddio’n briodol yn gwneud y Rheoliadau’n ddiystyr.

Mae Rheoliadau Cymru yn llawer mwy cynhwysfawr a phellgyrhaeddol na’u cyfwerth yn Lloegr ac yn darparu mesur sylfaenol ysgubol i atal llygredd. Rydym yn cefnogi’r Rheoliadau a chredwn y dylid eu gweithredu a’u gorfodi ledled Cymru.


 

Ond mae rhaid eu hadolygu i gynnwys ffurfiau eraill o lygredd amaethyddol fel safon ar gyfer Cymru gyfan. Nid ydym yn gweld dewisiadau amgen i reoleiddio. Yn anad dim, mae rhaid clustnodi adnoddau digonol er mwyn eu gorfodi.

Yr eiddoch yn gywir

Dr Justin Neal
Cyfreithiwr

Ar ran Fish Legal